Bwthyn hunan-ddarpar yn y mynyddoedd wrth odre Cadair Idris / Cader Idris, cysgu chwech, eisteddle tân a heulfan fawr gyda golygfeydd i'r mynyddoedd a thros y cwm, bwthyn traddodiadol gyda phob moethusrwydd a chysuron modern

Bwthyn Gwyliau Penybryn

Dyma rai o'r cyfleusterau sydd ar gael:

  • Golygfeydd godidog dros y cwm ac i'r mynyddoedd
  • Gardd hyfryd wedi'i walio a'i ffensio'n ddiogel a lawnt yn amgylchynu'r bwthyn, dwy fainc, dodrefn gardd o wiail, a barbyciw
  • Ystafell fyw ag eisteddle tân, stôf goed a glo, soffas lledr, teledu digidol a chwaraewr DVD
  • Heulfan gyda bwrdd trestl hir, dwy soffa a golygfeydd dros yr ardd ac i'r mynyddoedd
  • Cegin / bwrdd bwyta gyda sinc belffast, peiriant golchi llestri, popty micro ac oer/rhewgell undarn mawr
  • Ystafell gawod i lawr grisiau, toiled a sinc gyda pheiriant golchi dillad a chwpwrdd cnesu dillad
  • Ystafell ymolchi i fyny grisiau gyda bath haearn-bwrw hen ffasiwn, toiled a sinc, a golygfeydd dros y cwm
  • Llofft Rhif 1 gyda gwely dwbl a golygfeydd dros y cwm
  • Llofft Rhif 2 gyda dau wely sengl a golygfeydd dros y cwm, yn arwain trwodd i Lofft Rhif 3
  • Llofft Rhif 3 gyda gwely 5 troedfedd a golygfeydd dros y cwm
  • Cot ar gael, hefyd gatiau i'r grisiau a chadair uchel
  • Sychwr gwallt, haearn a bwrdd smwddio
  • Dillad gwely a llieiniau bath a llaw wedi eu cynnwys (cofiwch ddod â'ch llieiniau traeth eich hun)
  • Gwres canolog a thrydan wedi eu cynnwys
  • Digonedd o le parcio
  • Addurniadau a choeden Nadolig go iawn ar gyfer wythnosau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
  • Llond basged o goed am ddim - mwy o goed a glo ar gael yn lleol
  • Gwyliau byr ar gael - 2, 3 neu 4 noson
  • Yr agoriad / allwedd ar gael gan y perchnogion gerllaw
  • Diwrnod cyrraedd a gadael - dydd Sadwrn, cyrraedd o 4pm ymlaen
  • Lle diogel i storio beics

Cyfyngiadau

  • Dim anifeiliaid anwes
  • Dim ysmygu
  • Grisiau gyda thro ynddynt, braidd yn gul i'r droed (200mm), Datganiad Mynediad ar gael

Bwthyn Penybryn Dolgellau – edrychwch ar lun mwy o’n bwthyn hunan-ddarpar yma! Bwthyn Penybryn Dolgellau – edrychwch ar lun mwy o’n bwthyn hunan-ddarpar yma! Bwthyn Penybryn Dolgellau – edrychwch ar lun mwy o’n bwthyn hunan-ddarpar yma! Bwthyn Penybryn Dolgellau – edrychwch ar lun mwy o’n bwthyn hunan-ddarpar yma! Bwthyn Penybryn Dolgellau – edrychwch ar lun mwy o’n bwthyn hunan-ddarpar yma!